BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnes Gwledig 2021/22

Mae yna gymaint o resymau dros gystadlu yn y Gwobrau Busnes Gwledig, un o ddathliadau mwyaf busnes gwledig yn y DU!

Mae cymryd rhan yn y Gwobrau Busnes Gwledig yn gyfle i ddathlu popeth rydych wedi’i gyflawni hyd yn hyn, ac i ddatblygu’r adnoddau ar gyfer mwy o lwyddiant hyd yn oed! Gall gael effaith wirioneddol ar eich busnes.

Os ydych chi’n ddigon lwcus i ennill gwobr, byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth ranbarthol a chenedlaethol, a fydd yn cryfhau enw da eich busnes. Mae dim ond bod yn rhan o’r Gwobrau’n eich galluogi i fanteisio ar gyfleoedd cyfryngau a’r wasg, a fydd yn arwain at gwsmeriaid newydd a mwy o ymwybyddiaeth o frand.

Mae ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y gorffennol wedi rhoi cyfweliadau radio a theledu, ac wedi ymddangos mewn papurau rhanbarthol a chenedlaethol o ganlyniad uniongyrchol i gystadlu yn y Gwobrau.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 21 Mai 2021.
Am ragor o wybodaeth ac i gystadlu, ewch i wefan y RBAs.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.