BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnes Powys 2021

Cynhelir Gwobrau Busnes Powys ddydd Gwener 8 Hydref 2021.

Bydd digwyddiad eleni yn wahanol iawn gan y bydd yn ddigwyddiad “Gyrru i mewn” ym maes parcio Campws Drenewydd NPTC, gyda llwyfannau a sgriniau yn yr awyr agored a bwyd a diodydd tecawê.

Mae’r gwobrau yn gyfle i bob busnes, menter gymdeithasol ac elusen ym Mhowys gystadlu am y cyfle i gyrraedd y rownd derfynol boed yn fusnesau mawr neu fach neu’n newydd neu’n bodoli ers tro.

Y categorïau eleni yw:

  • Gwobr Dechrau Busnes 
  • Gwobr Entrepreneuriaeth
  • Gwobr Microfusnes (Llai na 10 o weithwyr)
  • Gwobr Twf
  • Gwobr Busnes Bach (Llai na 30 o weithwyr)
  • Gwobr Prentis Eithriadol
  • Gwobr Menter Gymdeithasol/Elusen
  • Twf Busnesau Bach
  • Technoleg ac Arloesi

Bydd gwobr gyffredinol ar gyfer Busnes y Flwyddyn Powys 2021 yn cael ei dewis o blith enillwyr y categorïau.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebu yw dydd Sadwrn 31 Gorffennaf 2021. Am ragor o wybodaeth ewch i www.powysbusinessawards.co.uk  

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.