BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnes Prydain 2022

Mae’n bleser gan SmallBusiness.co.uk gyhoeddi bod enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Busnes Prydain 2022!

Nawr yn eu pumed flwyddyn, mae’r gwobrau yn cydnabod a dathlu cyflawniadau arloesol a rhagorol busnesau bach a chanolig o Brydain ymhob diwydiant.

Mae Gwobrau Busnes Prydain yn cynnig y cyfle i chi a’ch cydweithwyr gael y gydnabyddiaeth rydych chi’n ei haeddu yn eich diwydiant ac ym mhob cwr o’r wlad.

Mae’r gwobrau hyn ar gael i unrhyw fusnes yn y DU sydd o fewn y diffiniad traddodiadol o BBaChau - sef hyd at 250 o weithwyr. Yn ddelfrydol, bydd y busnes wedi bod yn masnachu ers o leiaf mis Ionawr 2020, ond bydd y beirniaid yn ystyried busnesau iau sydd wedi’u sefydlu ar ôl y dyddiad hwn.

Mae’r gwobrau ar gael hefyd i’r darparwyr gwasanaethau a’r buddsoddwyr hynny sy’n helpu i greu’r ‘ecosystem’ a alluogodd BBaChau i ffynnu a goresgyn yn arbennig yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Bydd yr enwebiadau yn cau ar 27 Mai 2022.

Am ragor o wybodaeth, ewch i British Small Business Awards | Celebrating the leaders in the small business community
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.