BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnes Prydain 2023

Mae SmallBusiness.co.uk yn falch iawn o gyhoeddi y gallwch nawr wneud enwebiadau ar gyfer Gwobrau Busnes Prydain 2023!   

Mae'r gwobrau mawreddog hyn, sy’n dathlu eu chweched flwyddyn, yn cydnabod, yn anrhydeddu ac yn dathlu cyflawniadau eithriadol ac arloesol busnesau bach a chanolig Prydain ar draws yr holl ddiwydiannau. 
Yn sgil y pandemig, mae busnesau bach Prydain wedi wynebu heriau newydd a digynsail. Dyna pam mae'r gwobrau eleni yn ymwneud â dathlu gwydnwch, creadigrwydd a llwyddiant y busnesau hyn. 

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gael eich cydnabod a'ch dathlu am eich gwaith caled a'ch cyflawniadau.  
Y dyddiad cau i wneud cais yw 26 Mai 2023.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i British Small Business Awards | Celebrating the leaders in the small business community
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.