BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnes Prydain 2024

Business owner smiling

Mae Gwobrau Busnes Prydain bellach ar agor ar gyfer cynnig enwebiadau.

Mae’r gwobrau’n cydnabod a dathlu campau rhagorol ac arloesol busnesau bach a chanolig eu maint ar draws y DU, gan daflu goleuni ar hanesion eithriadol.

P’un a ydych chi’n gwmni newydd sy’n dangos twf, yn fusnes sefydledig sy’n gosod safonau newydd i’r diwydiant, neu’n unigolyn sy’n gwneud cyfraniad arwyddocaol at dirlun busnes Prydain, mae’r gwobrau eisiau cydnabod eich cyflawniadau.

Dyma’r categorïau eleni:

  • Busnes Du, Asiaidd, Lleiafrif Ethnig y Flwyddyn
  • Menter Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant y Flwyddyn
  • Entrepreneur y Flwyddyn (dros 30 oed)
  • Entrepreneur y Flwyddyn (o dan 30 oed)
  • Menter Iechyd a Lles y Flwyddyn
  • Busnes Micro y Flwyddyn
  • Syniad Busnes Mwyaf Arloesol y Flwyddyn
  • Cynghorydd Recriwtio y Flwyddyn
  • Busnes Adwerthu y Flwyddyn
  • Dylanwadwr Busnes Bach y Flwyddyn
  • Busnes Bach y Flwyddyn
  • Brocer Yswiriant BBaCh y Flwyddyn
  • Asiantaeth Farchnata BBaCh y Flwyddyn
  • Busnes newydd y Flwyddyn
  • Gwobr Busnes Cynaliadwy y Flwyddyn
  • Darparwr Technoleg y Flwyddyn
  • Busnes dan Arweiniad Menywod y Flwyddyn

Mae’r cyfle i gynnig yn cau ddydd Gwener, 26 Ebrill 2024.

Gallwch gynnig yn rhad ac am ddim a gallwch eich enwebu eich hun neu enwebu cymheiriad, cydweithiwr neu fusnes haeddiannol.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: British Small Business Awards | Celebrating the leaders in the small business community


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.