BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnes Sir Gaerfyrddin 2024

Carmarthenshire Business Awards 2024

Bydd Gwobrau Busnes cyntaf erioed Sir Gaerfyrddin yn dathlu llwyddiant busnes ledled y sir ar 12 Gorffennaf 2024 ym Mharc y Scarlets yn Llanelli.

Gall busnesau ac entrepreneuriaid gyflwyno hyd at 2 gais ar draws 15 categori, gan gynnwys:

  • Busnes Creadigol a Digidol y Flwyddyn
  • Cyflogwr y Flwyddyn
  • Entrepreneur y Flwyddyn
  • Busnes Cyllid a Gwasanaethau Proffesiynol y Flwyddyn
  • Busnes Gwyrdd y Flwyddyn
  • Busnes Arloesi a Thechnoleg y Flwyddyn
  • Busnes Rhyngwladol y Flwyddyn
  • Busnes Gweithgynhyrchu'r Flwyddyn
  • Busnes Manwerthu'r Flwyddyn
  • Busnes Gwledig y Flwyddyn
  • BBaCh y Flwyddyn
  • Busnes Newydd y Flwyddyn
  • Sefydliad Trydydd Sector y Flwyddyn
  • Busnes Twristiaeth a Lletygarwch y Flwyddyn
  • Person Busnes Ifanc y Flwyddyn

Nid oes tâl i gystadlu am y gwobrau, a hanner nos 17 Mai 2024 yw’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich cais.

Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Gwobrau Busnes Sir Gaerfyrddin 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.