BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Caws y Byd 2022

Mae Gwobrau Caws y Byd, sy’n ddigwyddiad caws gwirioneddol fyd-eang, yn dod â gwneuthurwyr caws, manwerthwyr, prynwyr, defnyddwyr a sylwebyddion bwyd ledled y byd at ei gilydd i farnu bron i 4,000 o gawsiau o dros 40 o wledydd.

Gydag emosiynau cymysg ond gyda balchder a chyffro enfawr, rydym yn mynd â rhifyn 2022 o Wobrau Caws y Byd i Gymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Dylai'r gwobrau fod yn cael eu cynnal yn Kyiv ym mis Tachwedd eleni. Bydd The Guild of Fine Food, sef trefnwyr Gwobrau Caws y Byd, yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein cefnogaeth i wneuthurwyr caws yr Wcráin yn parhau eleni a thu hwnt. Rydym yn ei ohirio yn hytrach na’i ganslo.

Mae'r gwobrau yn agor ar gyfer ceisiadau ar 25 Gorffennaf 2022 a'r dyddiad cau yw 20 Medi 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i World Cheese Awards - Guild of Fine Food (gff.co.uk)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.