Mae'r gwobrau, a ddyfernir gan y corff proffesiynol ar gyfer datblygu pobl, sef y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), yn cydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth mewn arfer rheoli pobl yng Nghymru.
Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu beirniadu a'u cymedroli gan banel o uwch weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr profiadol iawn ar draws adnoddau dynol a dysgu a datblygu.
Mae categorïau Gwobrau CIPD Cymru eleni yn cynnwys:
- cynllun prentisiaeth gorau
- menter rheoli newid orau
- menter cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant orau
- ymgynghorydd / ymgynghoriaeth allanol gorau
- tîm mewnol gorau
- menter dysgu a datblygu orau
- menter caffael a rheoli talent orau
- menter lles orau
- seren y dyfodol y proffesiwn pobl
- rhagoriaeth mewn arweinyddiaeth adnoddau dynol
- cyfraniad eithriadol ym maes datblygu pobl yng Nghymru
Mae ceisiadau’n cau ar 12 Ionawr 2024.
I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen ganlynol Home - CIPD Awards Wales 2024 (cipdwalesawards.co.uk)