Mae Gwobrau Cyllid Cymru wedi’u llunio i adnabod, denu a buddsoddi yn y gweithwyr proffesiynol a thalentog sy’n gweithio ym maes cyllid yng Nghymru.
Dyma’r categorïau eleni:
- Arwr/arwyr COVID
- prif swyddog ariannol/cyfarwyddwr cyllid y flwyddyn (dros £25 miliwn)
- prif swyddog ariannol/cyfarwyddwr cyllid y flwyddyn (hyd at £25 miliwn)
- cyfarwyddwr cyllid ifanc y flwyddyn
- rheolwr cyllid y flwyddyn
- cyfrifydd y flwyddyn
- technegydd cyfrifon y flwyddyn
- seren newydd y flwyddyn
- tîm cyllid (gwasanaethau ariannol) y flwyddyn
- tîm cyllid bach (hyd at 10 aelod o staff yn y tîm) y flwyddyn
- tîm cyllid canolig/mawr (mwy nag 11 aelod o staff yn y tîm)
- arfer cyfrifyddu annibynnol y flwyddyn
- rheolwr cyfoeth y flwyddyn
- cyfraniad eithriadol i gyllid yng Nghymru
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 14 Mai 2021.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Gwobrau Cyllid Cymru.