Mae Gwobrau Cynnyrch a Phecynnu Newydd The Grocer yn ffordd wych o arddangos eich cynnyrch ac yn gyfle perffaith i ennill y gydnabyddiaeth yr ydych chi a'ch tîm yn ei haeddu.
Mae'r categorïau wedi'u rhannu'n gynnyrch bwyd a chynnyrch nad yw’n fwyd a rhaid cwrdd ag un o'r meini prawf canlynol:
- Newydd i Farchnad y DU
- Cynnyrch wedi'i ail-lunio
- Cynnyrch sydd wedi'i ail-leoli, wedi'i dargedu at farchnadoedd newydd neu wedi'i ailbecynnu'n sylweddol
- Ychwanegiad, amrywiad neu estyniad i fath o gynnyrch sydd eisoes ar gael.
Sylwch, dylai’r cynhyrchion gael eu datblygu a’u lansio rhwng 15 Mai 2023 ac 8 Tachwedd 2024.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 17 Mehefin 2024.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais: The Grocer New Product & Packaging Awards 2024 - Enter-Product Categories (thegrocernewproductawards.co.uk)