BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Cynnyrch Newydd The Grocer 2022

Os oes gennych chi gynnyrch newydd gwych, yna mae The Grocer eisiau clywed amdano. Gall fod naill ai’n eitem bwyd neu’n eitem nad yw’n fwyd, cyn belled â’i fod yn dangos arloesedd go iawn – rhywbeth a fydd yn gwneud i bobl siarad – a phrynu!

Mae Gwobrau Cynnyrch Newydd The Grocer 2022 yn dathlu ac yn gwobrwyo arloesedd rhagorol yn sector FMCG y DU (Nwyddau Defnyddwyr sy’n Symud yn Gyflym), yn y categorïau bwyd a rhai nad ydynt yn fwyd.

Os byddwch yn ennill gwobr, bydd eich cynnyrch yn cael ei amlygu o flaen cynulleidfa o bersonél cwmnïau o’r radd flaenaf ar y noson wobrwyo ei hun, a bydd hefyd yn ymddangos yng nghylchgrawn The Grocer ac ar ei wefan.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 20 Mehefin 2022, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan The Grocer 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.