Ydych chi’n arwain elusen sy’n gweithio ym meysydd y Gymuned, yr Amgylchedd, Llesiant neu Ieuenctid? Ydych chi wedi eich lleoli yng Ngogledd neu Ganolbarth Lloegr, neu yng Nghymru? A oes gennych o leiaf un aelod o staff sydd wedi’i gyflogi amser llawn mewn swydd arwain a gydag incwm o lai na £5 miliwn y flwyddyn?
Yna, gallech fod yn gymwys i gael pecyn cymorth, gan gynnwys grant anghyfyngedig, gwerth ychydig dros £22,000. Mae’r cymorth hwn i elusennau yn bwysicach nag erioed wrth i’r argyfwng costau byw waethygu.
Drwy Wobrau Elusen Weston, mae grantiau anghyfyngedig o £6,500 ar gael i hyd at 22 o elusennau uchelgeisiol. Mae’r cyfraniadau ariannol ar gael i sbarduno newid strategol a sbarduno twf arloesol er gwaethaf yr heriau presennol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn cael mynediad am ddim i’r rhaglen Pilotlight 360 – pecyn deg mis o hyfforddiant arwain sydd werth tua £16,000.
Mae ceisiadau yn cau ar 10 Ionawr 2024.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Apply now (pilotlight.org.uk)