Mae ceisiadau ar gyfer Gwobrau Elusen Weston 2025 bellach ar agor!
Ydych chi'n arwain elusen sy'n gweithio ym meysydd y Gymuned, yr Amgylchedd, Llesiant neu Ieuenctid? Ydych chi wedi eich lleoli yng Nghymru neu yng Ngogledd neu Ganolbarth Lloegr? A oes gennych o leiaf un aelod o staff sydd wedi’i gyflogi’n amser llawn mewn swydd arwain, ac a yw eich incwm yn llai na £5 miliwn y flwyddyn?
Yna gallech fod yn gymwys i gael pecyn cymorth, gan gynnwys grant anghyfyngedig, gwerth ychydig dros £22,000.
Ochr yn ochr â grantiau, byddwch yn cael pecyn heb ei ail o fentora arweinyddiaeth gan bedwar uwch weithiwr proffesiynol ar draws sefydliadau amrywiol yn y sector preifat a chyhoeddus.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm Dydd Mercher 8 Ionawr 2025.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: The Weston Charity Awards