BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Elusennau Cymru 2023

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn ôl!

Mae Gwobrau Elusennau Cymru, a drefnir gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), yn cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad gwych y mae elusennau, grwpiau cymunedol, mudiadau dielw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth cadarnhaol y gallwn ei wneud i fywydau ein gilydd.

Gallwch enwebu mewn wyth categori yng Ngwobrau Elusennau Cymru:

  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn (26 oed a hŷn)
  • Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (25 oed ac iau)
  • Cynhyrchydd incwm y flwyddyn
  • Gwobr hyrwyddwr amrywiaeth
  • Gwobr defnydd gorau o’r Gymraeg
  • Gwobr arloeswr
  • Gwobr iechyd a lles
  • Gwobr mudiad y flwyddyn

Rhaid i enwebiadau ein cyrraedd erbyn 5pm ar 26 Mehefin 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gwobrau Elusennau Cymru 2022 – Welsh Charity Awards 2023
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.