Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn ôl ar gyfer 2024, ac mae’r enwebiadau ar agor nawr!
Wedi’u trefnu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, mae Gwobrau Elusennau Cymru yn cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad ffantastig y mae elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth positif y gallwn ni ei wneud i fywydau ein gilydd.
Isod mae’r categorïau ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – gallwch wneud un enwebiad ym mhob categori:
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn (26 oed neu hŷn)
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn (25 oed neu iau)
- Codwr arian y flwyddyn
- Hyrwyddwr amrywiaeth
- Defnydd gorau o’r Gymraeg
- Mudiad bach mwyaf dylanwadol
- Iechyd a lles
- Mudiad y flwyddyn
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 13 Medi 2024.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn ôl am 2024! - CGGC (wcva.cymru)