BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Entrepreneuriaid Barclays – Enwebiadau ar gyfer 2021 ar agor nawr

Mae Gwobrau Entrepreneuriaid Barclays yn cydnabod effaith entrepreneuriaid ledled y DU. Mae’r Gwobrau yn dathlu busnesau arloesol, tarfol drwy rownd ranbarthol cyn rownd derfynol genedlaethol yn Llundain

Mae Gwobrau Entrepreneuriaid Barclays ar agor i drigolion y Deyrnas Unedig sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:

  • busnes yn y DU
  • wedi cofrestru/sefydlu yn y DU
  • cyfeiriad masnachu yn y DU
  • swyddog allweddol neu uwch reolwr yn y DU
  • gallu dangos tystiolaeth o fasnachu yn y DU

Mae Gwobrau Entrepreneuriaid Barclays yn cynnwys wyth categori o wobrau, yn amrywio o fusnesau newydd i ehangu’n rhyngwladol.

Bydd enwebiadau yn cau dydd Gwener, 2 Gorffennaf 2021 am hanner nos.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i wefan Barclays.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.