Mae Gwobrau'r Ffederasiwn Bwyd a Diod (FDF) yn cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth ar gyfer arloesi, cystadleurwydd a thalent yn y diwydiant bwyd a diod.
Pwy sy’n cael ymgeisio?
- Gweithgynhyrchwyr bwyd a diod
- Manwerthwyr, cynhyrchwyr, tyfwyr, lletygarwch
- Sectorau sy'n gweithio gyda'r gadwyn cyflenwi bwyd a diod gan gynnwys ymchwilwyr, dosbarthwyr, iechyd, awdurdodau lleol a darparwyr addysg
Cymerwch gip ar gategorïau'r gwobrau a gwnewch gais am ddim cyn 28 Chwefror 2024, am gyfle i ennill - mae croeso i chi roi cynnig ar faint bynnag o gategorïau ag yr hoffech chi, ac enwebu sawl prosiect/cydweithiwr.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: FDF Awards | The Food & Drink Federation