Yn dathlu Gweithwyr Technoleg Ariannol Proffesiynol Cymru, cynhelir Gwobrau FinTech Cymru ar 16 Medi 2022 yn Tramshed, Caerdydd a gellir rhoi cynnig arni ac enwebu nawr.
A hithau’n wlad dechnoleg sy’n datblygu, mae gan Gymru’r economi ddigidol sy’n tyfu gyflymaf y tu allan i Lundain a gyda thwf cadarn yn y sector ariannol a phroffesiynol yng Nghymru, mae’r llwyfan wedi’i osod i gefnogi chwyldro digidol y wlad.
Mae gan Wobrau FinTech Cymru y gwobrau canlynol yn 2022:
- Cwmni Technoleg Ariannol Newydd y Flwyddyn
- Cwmni Technoleg Ariannol y Flwyddyn
- Cwmni Technoleg Ariannol sy'n Tyfu y Flwyddyn
- Arweinydd Technoleg Ariannol y Flwyddyn
- Cynnyrch Newydd y Flwyddyn
- Technoleg Ariannol er Budd y Flwyddyn
- Stori Twf Gorau y Flwyddyn
- Cyflymydd / Deorydd Gorau y Flwyddyn
- Rhaglen Academaidd Orau sy'n Cefnogi Cwmnïau Technoleg Ariannol/Gwasanaethau Ariannol y Flwyddyn
- Seren Technoleg Ariannol Newydd y Flwyddyn
- Y Lle Gorau i Weithio y Flwyddyn
Hefyd, bydd gwobr Arweinydd Technoleg Ariannol y Flwyddyn a fydd yn cael ei ddewis gan y beirniaid ac yn cydnabod unigolyn sydd wedi cael dylanwad mawr ac effaith ar gymuned fusnes technoleg ariannol.
Mae’r gystadleuaeth yn cau ar 6 Mai 2022 am 5pm.
Am ragor o wybodaeth, ewch i FinTech Awards Wales