BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Fintech Cymru 2024

Financial Technology

Nod Gwobrau Fintech Cymru yw cydnabod, denu a buddsoddi yn y cwmnïau a’r gweithwyr proffesiynol Fintech talentog sy’n gweithio yng Nghymru.

Bydd y gwobrau’n cydnabod llwyddiannau’r sector Fintech ffyniannus ledled y wlad, gan ddod â phrif arloeswyr ac arbenigwyr digidol Cymru ynghyd mewn noson o ddathlu.

Y categorïau eleni yw:

  • Cwmni Newydd Fintech
  • Cwmni Fintech
  • Cwmni sy’n Tyfu Fintech
  • Arweinydd Fintech
  • Cynnyrch Newydd
  • Fintech er Gwell
  • Stori Twf Gorau
  • Rhaglen Academaidd Orau’r Flwyddyn yn Cefnogi Cwmnïau Fintech / Gwasanaethau Ariannol
  • Allforiwr Fintech
  • Seren Fintech Sy’n Dod i’r Amlwg
  • Y Lle Gorau i Weithio
  •  Tîm Seiberddiogelwch
  • Y Defnydd Gorau o Ddeallusrwydd Artiffisial
  • Prentis
  • Cwmni Cynghori Gorau

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17 Mai 2024.

Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 6 Medi 2024 yn y Tramshed, Caerdydd.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Fintech Awards Wales 2024 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.