BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Great Taste 2024

Ice cream

Gwobrau Great Taste y Guild of Fine Food yw’r cynllun achredu mwyaf eang a dibynadwy yn y byd ar gyfer bwyd a diod.

Mae cael panel o dros 500 o arbenigwyr i brofi eich bwyd neu ddiod yn ffordd gyflym o gael adborth gonest, syml a diduedd gan gogyddion, prynwyr, ysgrifenwyr ym maes bwyd, a manwerthwyr. P’un a yw’ch cynnyrch yn derbyn gwobr 1, 2 neu 3 seren, mae sêr Great Taste yn sêl bendith uchel eu parch.

Mae cyflwyno cynnyrch ar gyfer gwobrau Great Taste yn agored i aelodau’r Guild of Fine Food o 8 Ionawr 2024 tan 22 Ionawr 2024, ac mae cyflwyno cyffredinol yn agored o 22 Ionawr 2024 tan 6 Chwefror 2024.

I gael manylion am wneud cais, dewiswch y ddolen ganlynol: Great Taste - Guild of Fine Food (gff.co.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.