Mae'r enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Gwarchodwyr Parciau 2022!
Mae'r ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol unwaith eto wedi ymuno â BBC Countryfile Magazine ar gyfer Gwobrau Gwarchodwyr Parciau 2022.
Mae Parciau Cenedlaethol yn wynebu heriau enfawr, o effaith yr argyfwng hinsawdd i dros ddegawd o doriadau mewn cyllid, gan ei gwneud hi’n anoddach ymdopi â'r nifer uchaf erioed o ymwelwyr.
Mae Gwarchodwyr Parciau yn sicrhau y gofelir am y dirwedd ac y gall mwy o bobl fwynhau Parciau Cenedlaethol yn gynaliadwy: o brosiectau sy'n helpu natur i wella i grwpiau ar lawr gwlad sy’n gwella mynediad cymunedol at Barciau Cenedlaethol, a gwirfoddolwyr yn helpu pobl i ymweld yn gyfrifol.
Mae'r gwobrau'n cydnabod ymdrechion staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio mewn Parciau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr dros oddeutu’r flwyddyn ddiwethaf.
Y thema eleni yw Pobl, Natur a'r Hinsawdd:
- Pobl - i gydnabod gwirfoddolwyr, cyflawniadau oes ac arloeswyr ar gyfer ein mudiad Parc Cenedlaethol
- Natur - i gydnabod prosiectau adfer natur, prosiect dad-ddofi tir sy'n cysylltu natur ag iechyd a lles, yn enwedig ar ôl effaith pandemig Covid-19
- Hinsawdd – cydnabod pobl a phrosiectau sy’n gysylltiedig â lliniaru'r hinsawdd, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, gweithio mewn partneriaeth ac ati.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 19 Mehefin 2022.
I gael mwy o wybodaeth ewch i Park Protector Awards | Campaign for National Parks (cnp.org.uk)