Gallwch nawr gyflwyno enwebiadau ar gyfer Gwobrau Gwarchodwyr y Parc Cenedlaethol 2024!
Mae Gwarchodwyr y Parc Cenedlaethol yn unigolion a grwpiau sy'n mynd y filltir ychwanegol. O weithio ar brosiectau ar raddfa fawr sy'n helpu natur i adfer i grwpiau ar lawr gwlad sy’n gwella mynediad cymunedol i Barciau Cenedlaethol a gwirfoddolwyr sy'n helpu pobl i ymweld a’r parciau yn gyfrifol. Mae degau o filoedd o Warchodwyr Parciau Cenedlaethol yn gweithio o ddydd i ddydd, ar y dasg ddiddiwedd hon. Gwobrau blynyddol Gwarchodwyr y Parc Cenedlaethol yw'r cyfle i gydnabod a gwobrwyo'r ymdrechion hyn.
Dyma gategorïau’r gwobrau eleni:
- Gwobr Natur Parciau Cenedlaethol
- Gwobr Safbwyntiau Newydd
- Gwobr Gwneuthurwr Newid Ifanc y Flwyddyn
Gall unrhyw un enwebu unigolyn, tîm neu brosiect ar gyfer y gwaith y maent wedi'i wneud mewn Parciau Cenedlaethol yng Nghymru neu Loegr yn ystod 2023 - 24. Mae croeso i chi enwebu eich hun/eich tîm/eich prosiect.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 11.59pm ar 5 Mai 2024.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Gwobrau Gwarchodwyr Parciau Cenedlaethol - Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol (cnp.org.uk)