Gwobrwyo eich gwaith, eich pobl, a'ch busnes.
Mae Gwobrau Gweithgynhyrchu Make UK 2022 yn cydnabod ac yn gwobrwyo gweithgynhyrchwyr a'u prentisiaid sydd wedi gwneud gwaith eithriadol yn y sector.
Wedi'i farnu'n rhanbarthol ac yn genedlaethol gan arbenigwyr annibynnol yn y diwydiant, mae'r gystadleuaeth drylwyr hon yn taflu goleuni ar y gweithgynhyrchwyr a'r mentrau gorau ar draws ystod o gategorïau – gan wobrwyo newid, arloesi, arfer gorau, a phobl.
Mae'r gwobrau'n agored i bob gweithgynhyrchydd. Gallwch nodi un neu fwy o gategorïau, i gyd drwy gais ar-lein.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 1 Gorffennaf 2022.
Am ragor o wybodaeth ewch i Make UK Manufacturing Awards | Make UK