Os ydych chi’n gweithgynhyrchu, yn cynllunio neu’n datblygu cynhyrchion yng Nghymru, yna beth am gymryd rhan yn Gwnaed yng Nghymru 2020? Mae’r Gwobrau yn dathlu’r cynhyrchion, yr arloesedd a’r syniadau gwych sydd gan gwmnïau o bob math ledled Cymru.
Dyma’r categorïau ar gyfer 2020:
- gwobr technoleg / peirianneg ddigidol
- gwobr arloesi mewn gweithgynhyrchu
- gwobr allforio
- gwobr bwyd a diod
- gwobr gweithgynhyrchu cynaliadwy / moesegol
- gwobr prentisiaeth / cynllun hyfforddiant gweithgynhyrchu
- prentis y flwyddyn
- gwobr ym maes meddygol, gwyddorau bywyd a gofal iechyd
- gweithgynhyrchydd y flwyddyn (o dan £25 miliwn)
- gweithgynhyrchydd y flwyddyn (dros £25 miliwn)
Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu yw 28 Awst 2020 a gellir gwneud hynny’n ddi-dâl.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Insider Media.