Mae Gwobrau Hyrwyddwyr Cyflog Byw 2024 yn dathlu’r unigolion a’r sefydliadau sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i’r mudiad Cyflog Byw.
Mae’r gwobrau’n cydnabod ymdrechion y rhai ar draws sectorau gwahanol – o Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Letygarwch ac o’r rhai sy’n hyrwyddo Cyflog Byw yn eu hardaloedd lleol i fusnesau cenedlaethol – mae’n dathlu’r bobl ar draws ein rhwydwaith sydd wedi creu newid gwirioneddol ac wedi mynd y tu hwnt i’r galw i hyrwyddo’r Cyflog Byw a thyfu’r mudiad.
Mae categorïau Gwobrau 2024 fel a ganlyn:
- Eiriolwr y Flwyddyn
- Hyrwyddwr Lleol
- Hyrwyddwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Hyrwyddwr Eiconig
- Hyrwyddwr Diwylliannol a Chreadigol
- Hyrwyddwr Lletygarwch
- Arloeswr Diwydiant
- Hyrwyddwr Darparwyr Gwasanaeth Cydnabyddedig
- Hyrwyddwr Oriau Byw
- Hyrwyddwr Pensiwn Byw
Mae ceisiadau ar gyfer Gwobrau Hyrwyddwyr 2024 yn cau am hanner nos, ddydd Gwener 22 Mawrth 2024.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Living Wage Champion Awards 2024 | Living Wage Foundation
Mae Llywodraeth Cymru yn annog pob cyflogwr sy’n gallu fforddio gwneud hynny i sicrhau bod eu cyflogeion yn cael cyfradd tâl fesul awr sy’n adlewyrchu costau byw, yn hytrach na’r lleiafswm statudol yn unig. Mae’r Cyflog Byw Gwirioneddol gwirfoddol yn swm wedi’i gyfrifo’n annibynnol ar sail yr hyn sydd ei angen ar bobl i fyw ac mae’n uwch na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol.
Dysgwch fwy trwy’r ddolen ganlynol: Amdano – Cyflog Byw i Gymru