Newyddion

Gwobrau Hyrwyddwyr Cyflog Byw 2025

coffee shop owner

Mae’r Gwobrau Hyrwyddwyr Cyflog Byw yn dathlu’r unigolion a’r sefydliadau sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r mudiad Cyflog Byw ac yn cydnabod ymdrechion y rheini ar draws gwahanol sectorau o Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Letygarwch, ac o’r rhai sy’n hyrwyddo’r Cyflog Byw yn eu hardaloedd lleol i fusnesau cenedlaethol.

Mae’r gwobrau’n dathlu’r bobl ar draws ein rhwydwaith sydd wedi creu newid go iawn ac wedi mynd yr ail filltir i hyrwyddo’r Cyflog Byw a thyfu’r mudiad.

Dyma gategorïau gwobrau 2025:

  • Eiriolwr y Flwyddyn
  • Ymgyrch y Flwyddyn
  • Hyrwyddwr Lleol
  • Hyrwyddwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Cyflawniad Eithriadol
  • Hyrwyddwr Diwylliannol a Chreadigol
  • Hyrwyddwr Lletygarwch
  • Hyrwyddwr Diwydiant
  • Hyrwyddwr Darparwr Gwasanaeth Cydnabyddedig
  • Hyrwyddwr Oriau Byw
  • Hyrwyddwr Pensiwn Byw
  • Dewis y Cyflogeion
  • Hyrwyddwr Trydydd Sector

Mae’r ceisiadau ar gyfer Gwobrau Hyrwyddwyr 2025 yn cau am hanner nos ar 31 Mawrth 2025.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Living Wage Champion Awards 2025 | Living Wage Foundation

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pob cyflogwr sy’n gallu fforddio gwneud hynny i sicrhau bod eu gweithwyr yn cael cyfradd cyflog fesul awr sy’n adlewyrchu costau byw, nid dim ond yr isafswm statudol. Mae’r Cyflog Byw Gwirioneddol gwirfoddol yn cael ei gyfrifo’n annibynnol ar sail yr hyn sydd ei angen ar bobl er mwyn byw ac mae’n uwch na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth cliciwch y ddolen ganlynol Cyflog Byw Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.