BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau manwerthwyr siop fferm a deli 2023

Mae'r Farm Shop and Deli Retailer Awards, nad oes angen talu i gystadlu ynddyn nhw, yn wobrau uchel eu parch yn y diwydiant am chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi a dathlu marchnad fanwerthu arbenigol annibynnol y DU.

Os ydych chi'n fanwerthwr annibynnol sy'n gwerthu cynnyrch ffres/fferm rhanbarthol neu os oes gennych gownter delicatessen, yna rhowch gynnig arni.

Mae'r Gwobrau'n agored i fanwerthwyr arbenigol yn y categorïau isod:

  • Pobydd
  • Cigydd
  • Gwerthwr caws
  • Delicatessen
  • Siop fferm 
  • Gwerthwr pysgod
  • Neuadd fwyd
  • Siop lysiau
  • Busnes ar-lein
  • Siop y pentref / siop leol

Os ydych chi'n fanwerthwr arbenigol o un o'r categorïau uchod, enwebwch eich hun a chyflwynwch gais erbyn 31 Ionawr 2023. Mae rhagor o fanylion yn Farm Shop & Deli Retailer Awards 2023 - Regions Options (farmshopanddelishow.co.uk)

Ydych chi'n gyflenwr neu'n gwsmer sy'n adnabod manwerthwr sy'n deilwng o'r Wobr? Rhaid anfon enwebiadau erbyn 6 Ionawr 2023. Am fwy o fanylion, ewch i Farm Shop & Deli Retailer Awards 2023 - Farm Shop and Deli Nomination (farmshopanddelishow.co.uk)

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.