BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Menywod sy’n Arloesi 2024/25

Woman wearing immersive headset

Gall menywod mewn microfusnesau a busnesau bach a chanolig (BBaCh) sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £4 miliwn i ddatblygu eu syniadau cyffrous ac arloesol.

Mae Innovate UK, sy’n rhan o UK Research and Innovation, yn cynnig hyd at 50 o Wobrau Menywod sy’n Arloesi i fenywod sy’n entrepreneuriaid mewn BBaChau ledled y DU. Bydd yr enillwyr yn derbyn grant o £75,000 a chymorth busnes pwrpasol.

Nod y gystadleuaeth hon yw ariannu a chefnogi portffolio amrywiol o enillwyr Gwobrau Menywod sy’n Arloesi:

  • a fydd yn fodelau rôl y gall menywod o bob cefndir uniaethu â nhw
  • sy’n dod o ranbarthau ar draws y DU
  • sy'n datrys amrywiaeth o heriau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd dybryd
  • mewn amrywiaeth o feysydd arloesi

Rhaid i’ch prosiect nodi heriau cymdeithasol, amgylcheddol neu economaidd dybryd â thystiolaeth glir ohonynt, a sut y gall eich prosiect a’ch arloesedd helpu i’w datrys.

Mae'r gystadleuaeth yn cau am 11am ddydd Mercher 10 Gorffennaf 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Competition overview - Women in Innovation Award 2024/25 - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk) 

Mae gan Innovate UK ystod eang o gyfleoedd cyllido sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru er mwyn iddynt arloesi a buddsoddi mewn ymchwil, datblygu ac arloesi.

Gall tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gael at y cyllid hwn a chefnogi eich busnes ymhellach: Business Wales Events Finder - CRISP24 - Cyfarfod Cymorth Ar-Lein (business-events.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.