Mae Gwobrau Merched Cymru Mewn Busnes 2022 yn agored i unrhyw ferch sy'n rhedeg busnes yma yng Nghymru.
Tydy maint ddim o bwys i ni! Gallwch chi fod yn fand un ferch neu'n sylfaenydd benywaidd cwmni enfawr. Efallai eich bod chi'n fusnes newydd fel ni, neu efallai bod eich busnes wedi bod o gwmpas ers hanner canrif - rydych chi i gyd yr un mor anhygoel!
Mae gennym 16 categori i adlewyrchu'r amrywiaeth o fusnesau er mwyn bod mor deg a hygyrch â phosib.
Y categorïau yw:
- Dan 25 Oed
- Llwyddo'n Llaw-rydd
- Manwerthwr Ar-lein
- Bwyd a Diod
- Defnydd o'r Gymraeg
- Iechyd, Ffitrwydd a Lles
- Gwallt a Harddwch
- Dylanwadwyr a Blogwyr
- Mam Mewn Busnes
- Peirianeg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Celf a Chrefft
- Ffotograffwyr a Dylunwyr
- Busnes Newydd (Dan 12 mis)
- Busnes Gwyrdd
- Hamdden a Thwristiaeth
- Arwr y Stryd Fawr
Gallwch enwebu rhywun tan ddydd Sul, 8 Mai 2022 am 5pm.
Os ydych chi eisiau noddi gwobr mewn categori penodol, cysylltwch â ni: post@llais.cymru
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.llaiscymru.wales/gwobrau