BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd

Nant Gwrtheyrn sign

Gwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd – yn cydnabod a dathlu’r busnesau sydd ar flaen y gâd gyda’u defnydd o’r Gymraeg yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd ac Ynys Môn.

Boed hynny’n siop pentref gyda gweithlu sy’n dysgu Cymraeg er mwyn cyfathrebu gyda’u cwsmeriaid; parlwr harddwch sy’n marchnata’u hunain yn ddwyieithog ar draws eu cyfryngau cymdeithasol neu’n gaffi sy’n annog y gymuned i ddod at ei gilydd i ddefnyddio’r Gymraeg.

Y categorïau: 

  • Brand mwyaf Cymraeg y byd
  • Defnydd cyfryngau cymdeithasol mwyaf Cymraeg y byd
  • Staff mwyaf Cymraeg y byd
  • Cynnyrch mwyaf Cymraeg y byd
  • Gofod mwyaf Cymraeg y byd
  • Busnes mwyaf Cymraeg y byd
  • Unigolyn mwyaf Cymraeg y byd

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 3 Mai 2024.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Gwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd — Bwrlwm ARFOR

Gall defnyddio ychydig bach o Gymraeg yn eich busnes wneud gwahaniaeth mawr. Helo Blod yw eich gwasanaeth cyngor a chyfieithu Cymraeg cyflym a chyfeillgar. Ac mae am ddim. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Croeso i Helo Blod | Helo Blod (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.