Y Gwobrau hyn yw’r digwyddiad galwedigaethol mwyaf ei fri yng Nghymru, ac maent yn anrhydeddu llwyddiannau rhagorol busnesau, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu sydd wedi cyfrannu at lwyddiant Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru. Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae pedwar categori o wobrau ar gyfer cyflogwyr:
- Cyflogwr Bach y Flwyddyn (1-49 o weithwyr)
- Cyflogwr Canolig y Flwyddyn (50 - 249 o weithwyr)
- Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (250 - 4999 o weithwyr)
- Macro-gyflogwr y Flwyddyn (5000+ o weithwyr)
Anogir cyflogwyr hefyd i enwebu'r prentisiaid a'r hyfforddeion hynny sydd, yn eu barn nhw, wedi cael effaith sylweddol ar eu busnes yn y categorïau isod:
- Hyfforddeiaethau – Dysgwr y Flwyddyn (Ymgysylltu)
- Hyfforddeiaethau - Dysgwr y Flwyddyn (Lefel 1)
- Prentis Sylfaen y Flwyddyn
- Prentis y Flwyddyn
- Prentis Uwch y Flwyddyn
Mae’r ceisiadau ar gyfer y Gwobrau ar agor ar dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw hanner dydd, dydd Gwener 30 Hydref 2020.
Am wybodaeth bellach, ewch i wefan Gwobrau Prentisiaethau Cymru.
Os hoffech gael eich ychwanegu at y rhestr ddosbarthu anfonwch e-bost i apprenticeshipawards@llyw.cymru