Croesewir cynigion o bob sector ledled y diwydiannau Cyfathrebu a Chynnwys, gan gynnwys cyhoeddi, papur, argraffu a phecynnu, cynhyrchion swyddfa, marchnata, meddalwedd a gemau, cyfathrebu, addysg, darlledu, newyddiaduraeth a’r cyfryngau digidol.
Anogir enwebiadau gan gwmnïau masnachol, busnesau newydd, elusennau, cymdeithasau masnach, sefydliadau addysgol a chyrff cyhoeddus fel amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau ac archifau. Gellir rhoi cynnig ar y gwobrau am ddim.
Mae chwe Gwobr i gyd:
- Proses Busnes
- Cyfathrebu a Marchnata
- Profiad Cwsmeriaid
- Cynllunio Cynnyrch
- Cynllun Gwasanaeth
- Busnesau Newydd
Dylai ceisiadau ganolbwyntio ar gynhyrchion, gwasanaethau neu brosesau busnes newydd sy’n cael effaith ariannol a/neu gymdeithasol gadarnhaol ar gwsmeriaid ac ar yr amgylchedd.
Y dyddiad cau i wneud cais yw 8 Ebrill 2022 am 7pm. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan The Stationers' Company.