Mae Gwobrau Rushlight 2020-21 bellach ar agor i geisiadau ac maen nhw wedi’u llunio’n benodol i gefnogi a hyrwyddo’r holl dechnolegau glân diweddaraf, syniadau arloesol, mentrau a phrosiectau defnydd ar gyfer busnesau a sefydliadau ledled y DU, Iwerddon ac yn rhyngwladol.
Mae Gwobrau Rushlight ar agor i bob math o sefydliadau ar unrhyw gyfnod o’u datblygiad corfforaethol, gan gynnwys dyfeiswyr unigol, cyw-gwmnïau, elusennau, prifysgolion, BBaChau, cwmnïau wedi’u dyfynnu a mentrau amlwladol.
Mae’r categorïau yn cynnwys:
- pob un math o ynni adnewyddadwy
- gwelliannau i hen fathau o ynni
- datrysiadau glanhau amgylcheddol
- effeithlonrwydd adnoddau o bob math
- trafnidiaeth o bob math
- gweithgynhyrchu cynaliadwy, cynhyrchion cynaliadwy, amaethyddiaeth gynaliadwy, bioamrywiaeth, mesureg amgylcheddol
- mentrau cynaliadwy, rhaglenni a’u defnydd
Dathlwch syniad arloesol neu fenter newydd drwy roi cynnig arni yn y gwobrau a broliwch eich cynnyrch, eich gwasanaeth, eich technoleg neu’ch prosiect gerbron darpar gwsmeriaid, buddsoddwyr, partneriaid, cyfryngwyr a darparwyr gwasanaethau.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Tachwedd 2020.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Gwobrau Rushlight.