BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Twristiaeth Go North Wales 2023

Mae Gwobrau Twristiaeth Go North Wales yn rhoi cyfle i ni ddathlu busnesau twristiaeth a lletygarwch gorau Gogledd Cymru a'r cyfraniad gwerthfawr y maent yn ei wneud i'r economi ymwelwyr sy'n tyfu.

Os ydych chi'n ymwneud â’r diwydiant twristiaeth yn y rhanbarth, yna mae'r gwobrau hyn ar eich cyfer chi! 

Dyma’r categorïau eleni:

  • Gwesty Mawr y Flwyddyn Go (50 a mwy o ystafelloedd)
  • Gwesty Bach y Flwyddyn Go (50 ystafell neu lai)
  • Gwely a Brecwast, Tafarn a Thŷ Llety y Flwyddyn Go 
  • Llety Hunanarlwyo’r Flwyddyn Go
  • Glampio, Gwersylla, Carafanio a Pharc Gwyliau’r Flwyddyn Go 
  • Atyniad y Flwyddyn Go 
  • Profiad y Flwyddyn Go
  • Gwobr Digwyddiad Gorau’r Flwyddyn Go
  • Gwobr Profiad Bwyta Allan Go
  • Gwobr Cyflenwr Twristiaeth y Flwyddyn Go
  • Gwobr Twristiaeth Foesegol, Gyfrifol a Chynaliadwy Go E
  • Gwobr Cyfeillgar i Anifeiliaid Anwes Go
  • Gwobr Person Ifanc mewn Twristiaeth a Lletygarwch Go 
  • Gwobr Busnes Twristiaeth Newydd y Flwyddyn Go
  • Gwobr Cydnabyddiaeth Marchnata a’r Cyfryngau Go
  • Gwobr Cruise Gogledd Cymru – Taith Grŵp Gorau Go
  • Gwobr Gwella Sgiliau mewn Twristiaeth a Lletygarwch Go 
  • Gwobr Gwydnwch ac Arloesedd Go
  • Gwobr Gwasanaeth i Dwristiaeth Go North Wales 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9 Hydref 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Go North Wales Tourism Awards

P'un a ydych chi'n ystyried dechrau busnes twristiaeth newydd, eisoes wedi cymryd y camau cyntaf neu eisiau tyfu eich busnes presennol, gall Busnes Cymru helpu. Cewch fwy o wybodaeth yma Twristiaeth | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.