Mae enwebiadau wedi agor ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2024.
Mae Gwobrau blynyddol Ysbrydoli! Addysg Oedolion yn dathlu llwyddiant unigolion, teuluoedd, prosiectau cymunedol a sefydliadau eithriadol a ddangosodd angerdd, ymroddiad ac egni ardderchog i’w gwella eu hunain, eu cymuned neu eu gweithle drwy ddysgu.
Mae’r gwobrau yn rhoi sylw i effaith dysgu gydol oes yng Nghymru ac mae’n gyfle i arddangos gwerth buddsoddi mewn cyfleoedd sy’n newid bywydau.
Categorïau Gwobr 2024:
- Sgiliau Gwaith
- Oedolyn Ifanc
- Newid Bywyd a Chynnydd
- Heneiddio’n Dda
- Dechrau Arni – dysgu Cymraeg
- Gorffennol Gwahanol: Rhannu Dyfodol
- Sgiliau Hanfodol Bywyd
- Gwobr Hywel Francis am Effaith Gymunedol
- Gwneuthurwyr Newid Gweithle
Rhaid cyflwyno enwebiadau erbyn y dyddiad cau: Dydd Gwener 12 Ebrill 2024.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion - Learning and Work Institute (sefydliaddysguagwaith.cymru)