BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2025

Tutor and pupil

Mae’r Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid blynyddol yn cydnabod gwaith gwerthfawr tiwtoriaid a mentoriaid wrth gefnogi dysgu gydol oes ar draws Cymru, ac mae enwebiadau ar gyfer 2025 bellach ar agor.

Mae’r gwobrau yn dathlu ymdrech ac ymroddiad rhagorol tiwtoriaid a mentoriaid i helpu oedolion sy’n ddysgwyr i gyflawni eu huchelgais, oherwydd y tu ôl i ddysgwyr llwyddiannus mae yna fentoriaid a thiwtoriaid sy’n ysbrydoli.

Dylai enwebiadau ddangos cyflawniadau mewn o leiaf ddau o'r meysydd canlynol:

  • Datblygu'r cwricwlwm, creu adnoddau a deunyddiau newydd.
  • Goresgyn amgylchiadau personol a/neu weithio mewn amgylchiadau heriol.
  • Cyfrannu at ehangu mynediad ac adeiladu llwybrau at gyfleoedd dysgu.
  • Ysbrydoli dysgwyr i symud ymlaen i gyrsiau neu gyfleoedd eraill i ddysgu, neu drosglwyddo i gyflogaeth.
  • Creu partneriaethau neu lwybrau newydd i ddysgu.
  • Datblygu ffyrdd arloesol o gefnogi, addysgu, chwalu rhwystrau, neu fentora dysgwyr.

Categorïau gwobrau:

  • Addysg Uwch
  • Addysg Bellach
  • Yn y Gweithle
  • Addysg Gymunedol
  • Cymraeg i Oedolion
  • Ysgol neu leoliad arall

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Llun 23 Rhagfyr 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid - Sefydliad Dysgu a Gwaith


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.