Mae Gwobrau'r Brenin ar gyfer Menter yn cael eu cyflwyno ar gyfer cyflawniad rhagorol gan fusnesau'r DU yn y categorïau canlynol:
- arloesedd
- masnach ryngwladol
- datblygu cynaliadwy
- hyrwyddo cyfleoedd drwy symudedd cymdeithasol
Os byddwch chi'n ennill, byddwch chi’n:
- cael eich gwahodd i dderbyniad Brenhinol
- derbyn y wobr yn eich cwmni gan un o gynrychiolwyr y Brenin, sef Arglwydd Raglaw
- gallu chwifio baner Gwobrau'r Brenin yn eich prif swyddfa, a defnyddio'r arwyddlun ar eich deunyddiau marchnata (er enghraifft ar eich deunydd pacio, hysbysebion, deunydd ysgrifennu a gwefan)
- derbyn Grant Penodi (tystysgrif swyddogol) a thlws crisial coffaol.
Mae'r gwobrau'n ddilys am 5 mlynedd.
Mae'r enillwyr wedi dweud eu bod wedi elwa o gydnabyddiaeth fyd-eang, mwy o werth masnachol, mwy o sylw yn y wasg a hwb i ysbryd staff.
Mae modd gwneud cais ar gyfer Gwobrau'r Brenin ar gyfer Menter yn rhad ac am ddim. Gallwch wneud cais ar gyfer mwy nag un wobr.
Gallwch wneud cais ar gyfer gwobrau 2024 o 6 Mai 2023.
I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen ganlynol The King's Awards for Enterprise: About the awards - GOV.UK (www.gov.uk)