Newyddion

Gwobrau’r Diwydiant Chwaraeon 2025 Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA)

Group of older women participating in sporting activity

Bydd Gwobrau Diwydiant Chwaraeon Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) 2025 yn cael eu cynnal ddydd Iau 12 Mehefin 2025 – dathliad o'r goreuon yn niwydiant chwaraeon a hamdden Cymru!

Bydd gwobrau eleni unwaith eto yn cydnabod ac yn hyrwyddo mentrau a llwyddiannau aelodau’r gymdeithas, ac yn gyfle i rannu’r modelau a’r strategaethau arfer gorau sy'n helpu sector chwaraeon a hamdden Cymru i ddatblygu. Ac ar gyfer 2025, bydd categori gwobr newydd ochr yn ochr â'r wyth categori gwreiddiol!

Dyma’r Gwobrau Diwydiant Chwaraeon WSA sydd ar gael ar gyfer eleni...

  • Y Fenter Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Orau
  • Y Fenter Orau i Hyrwyddo Menywod mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
  • Gwobr am yr Arloesi Gorau
  • Yr Ymrwymiad Gorau i'r Gymraeg
  • Y Fenter Cynaliadwyedd Orau
  • Y Fenter â’r Effaith Gymdeithasol Orau
  • Y Fenter Cydweithredu Orau (Cyfranogiad, Nawdd neu Ymgysylltu ag Aelodau)
  • Yr Ymgyrch Fwyaf Dylanwadol (Cyfathrebu, Cysylltiadau Cyhoeddus neu Eiriolaeth)
  • Gwobr am y Twf Gorau

Mae’r ceisiadau ar gyfer Gwobrau Diwydiant Chwaraeon WSA 2025 ar agor ar hyn o bryd a byddant yn cau ar 24 Mawrth 2025.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: WSA Sports Industry Awards 2025


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.