BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau'r Frenhines am Fenter 2021

Gwobrau'r Frenhines am Fenter yw'r gwobrau mwyaf eu bri i fusnesau'r DU o bob maint a sector.

Gall y gwobrau ddarparu:

  • cyfleoedd marchnata rhagorol a sylw yn y wasg
  • cydnabyddiaeth fyd-eang fel cwmni Prydeinig eithriadol 
  • mwy o drosiant a masnach ryngwladol 
  • hwb i forâl staff, ac i bartneriaid a rhanddeiliaid hefyd 

Mae'r gwobrau'n broses hunan-enwebu a gellir ymgeisio'n rhad ac am ddim. 

Mae'r cyfnod ymgeisio ar agor ar hyn o bryd, a bydd yn cau ar 22 Medi 2021.

Gallwch weld rhestr lawn o'r meini prawf cymhwystra, neu fynd i'r wefan i wneud cais a dysgu mwy am y gwobrau.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.