Mae Gwobrau’r Frenhines am Fenter yn dathlu cyflawniad eithriadol gan fusnesau o’r Deyrnas Unedig yn y categorïau canlynol:
- arloesedd
- masnach ryngwladol
- datblygu cynaliadwy
- hyrwyddo cyfle trwy symudedd cymdeithasol
Os byddwch yn ennill:
- byddwch yn cael gwahoddiad i dderbyniad Brenhinol
- byddwch yn derbyn y wobr yn eich cwmni gan un o gynrychiolwyr y Frenhines, Arglwydd Raglaw
- byddwch yn gallu chwifio baner Gwobrau’r Frenhines yn eich prif swyddfa, a defnyddio’r arwyddlun ar eich deunyddiau marchnata (er enghraifft, ar eich pecynnu, eich hysbysebion, eich papur ysgrifennu a’ch gwefan)
- byddwch yn cael Grant Penodi (tystysgrif swyddogol) a thlws crisial coffaol
Mae’r gwobrau’n ddilys am 5 mlynedd.
Mae enillwyr wedi dweud eu bod wedi elwa o gydnabyddiaeth fyd-eang, cynnydd mewn gwerth masnachol, mwy o sylw yn y wasg a hwb i ysbryd staff.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 6 Medi 2022.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i ttps://www.gov.uk/queens-awards-for-enterprise