BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwybodaeth am ffioedd newydd y bydd angen i fusnesau yn y DU eu talu i fewnforio bwyd a phlanhigion o’r UE

Warehouse with boxes of fruit and vegetables

Fel rhan o newidiadau i reolaethau mewnforio o dan y Model Gweithredu Targed y Ffin, bydd y ‘tâl cyffredin i ddefnyddwyr’ yn cael ei gyflwyno ar 30 Ebrill 2024 ar gyfer symudiadau masnachol cynhyrchion anifeiliaid, planhigion a chynhyrchion planhigion trwy Borthladd Dover a’r Eurotunnel.

Bydd angen i chi dalu’r tâl cyffredin i ddefnyddwyr os ydych yn fusnes yn y DU sy’n mewnforio cyflenwad o nwyddau:

  • sy’n fewnforion yn dod i Brydain Fawr
  • sydd ar daith ac yn dod i mewn ac allan o Brydain Fawr

Bydd y tâl yn berthnasol hyd yn oed os na fydd yr awdurdodau yn dewis eich cyflenwad o nwyddau ar gyfer gwiriadau Iechydol a Ffytoiechydol (SPS).

Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Common user charge: rates and eligibility - GOV.UK  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.