BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gŵyl Cychwyn Busnes yr Haf

Hoffech chi gychwyn eich busnes eich hun, meithrin gyrfa lawrydd neu sefydlu menter gymdeithasol? Efallai eich bod eisoes ar waith, ond yn chwilio am ffyrdd o wella neu dyfu?

Cynhelir Gŵyl Cychwyn Busnes yr Haf, sy'n gwrs cychwyn busnes ar-lein o fri, rhwng 14 ac 18 Mehefin 2021. 

Gyda digwyddiadau'n cael eu cynnal ar draws 4 llwyfan gyda rhai o entrepreneuriaid mwyaf a disgleiria'r genedl, bydd y cwrs ar-lein 5 diwrnod yn eich helpu i feithrin, datblygu, a mynd o nerth i nerth fel busnes.

  • Prif Lwyfan – Dyma fan cychwyn eich diwrnod, gyda sgyrsiau gan rai o brif entrepreneuriaid ac arbenigwyr gorau Cymru!
  • Llwyfan y Galon - Syrthiwch mewn cariad â'ch syniadau ar y llwyfan hwn, trwy ddysgu sut i gynhyrchu, datblygu a phrofi syniadau cychwyn busnes!
  • Llwyfan Help Llaw – Nid ar chwarae bach mae sicrhau bod cwsmeriaid yn gwybod amdanoch chi yn y lle cyntaf. Ewch draw i'r Llwyfan Help Llaw ar gyfer eich holl anghenion marchnata!
  •  Llwyfan y Pen – Mae'r llwyfan hwn yn ymdrin â'r holl agweddau pwysig a chyfreithiol ar gychwyn a rhedeg busnes. Treth, Eiddo Deallusol, y broses fuddsoddi, ac ati – dyma'r lle i fod!

I gofrestru am ddim ewch i wefan Eventbrite.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Summerstartup.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.