BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad 2022

Mae’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad yn ddigwyddiad sy’n para penwythnos, gyda’r pwyslais ar dyddynwyr a phobl sydd wrth eu bodd yn yr awyr agored.

Mae’r ŵyl yn  cael ei chynnal rhwng 21 a 22 Mai 2022 ar Faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd.

Gyda phwyslais ar ddathlu’r tyddyn a chefn gwlad, bydd yr ŵyl yn llawn dop o bethau diddorol i’w gweld, bwydydd a diodydd hyfryd i’w blasu, cerddoriaeth fyw, chwaraeon cefn gwlad, siopau, arddangosiadau, hwyl, gweithgareddau addysgol a phob math o dda byw, ceffylau ac anifeiliaid eraill yn cymryd rhan mewn cystadlaethau ac arddangosfeydd dros y deuddydd.

Ydych chi am ddod â’ch busnes i’r Ŵyl? Yna beth am wneud cais am stondin fasnachu?

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am stondin fasnachu yw 28 Ionawr 2022.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i Gwnewch gais am stondin fasnachu - Y Sioe Fawr (rwas.wales) e-bost requests@rwas.co.uk  
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.