BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwyliau crefyddol, diwrnodau sanctaidd a defodau - sut maent yn effeithio ar eich busnes chi?

Yn y DU mae ystod eang o grefyddau gwahanol y gall fod angen i gyflogwyr a gweithwyr eu deall yn ogystal â sut y gallant effeithio ar y gweithle o bryd i’w gilydd.

Mae’n bosib y bydd un o fisoedd mwyaf sanctaidd y calendr Islamaidd, Ramadan, yn dechrau ar nos Fercher 22 Mawrth ac yn dod i ben ar nos Wener 21 Ebrill.  Mae hyn yn golygu y bydd Eid al-Fitr 2023 yn cael ei ddathlu ar ddydd Gwener 21 Ebrill. Gan fod dyddiad dechrau Ramadan yn cael ei gadarnhau ar ymddangosiad y lleuad, gall y dyddiadau hyn amrywio o ddiwrnod.

Ramadan yw nawfed mis y calendr Islamaidd, ac mae’n cael ei ystyried gan Fwslimiaid ledled y byd fel mis o ymprydio, gweddïo, myfyrio a chymuned.

Mae gan lawer o weithleoedd weithwyr o gefndiroedd crefyddol a di-grefydd gwahanol.

Dyma rai enghreifftiau:

  • Diwali (Hindŵaeth)

  • Guru Nanak (Siciaeth)

  • Y Grawys (Cristnogaeth)

  • Pesach/y Pasg (Iddewiaeth)

  • Vesak (Bwdhaeth)

Gall annog mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r cefndiroedd hyn dalu ar ei ganfed, yn enwedig wrth feithrin tîm. Gall hefyd helpu i leihau’r gamddealltwriaeth allai godi ac arwain at gwynion neu gamau disgyblu.

I gael rhagor o gyngor ac arweiniad, ewch i wefan: 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.