BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwyliau crefyddol, diwrnodau sanctaidd a defodau - sut maent yn effeithio ar eich busnes chi?

Muslim women and men praying before eating

Yn y DU mae ystod eang o grefyddau gwahanol y gall fod angen i gyflogwyr a gweithwyr eu deall yn ogystal â sut y gallant effeithio ar y gweithle o bryd i’w gilydd.

Mae’n un o fisoedd mwyaf sanctaidd y calendr Islamaidd, Ramadan, yn cael ei nodi gan Fwslimiaid ledled y byd fel mis o ymprydio, gweddi, myfyrdod ysbrydol a chymuned.

Mae Mwslimiaid yn dilyn calendr lleuadol a gall Ramadan bara am naill ai 29 neu 30 diwrnod, gyda'r dyddiad dechrau ymprydio yn dibynnu ar y lleuad. Eleni, disgwylir i Ramadan ddechrau ar ddydd Llun 11 Mawrth 2024, a disgwylir iddo ddod i ben nos Lun 8 Ebrill 2024 (gall y dyddiadau hyn amrywio o un diwrnod).

Mae gan lawer o weithleoedd weithwyr o gefndiroedd crefyddol a di-grefydd gwahanol.

Dyma rai enghreifftiau:

  • Diwali (Hindŵaeth)
  • Guru Nanak (Siciaeth)
  • Y Grawys (Cristnogaeth)
  • Pesach/y Pasg (Iddewiaeth)
  • Vesak (Bwdhaeth)

Gall annog mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r cefndiroedd hyn dalu ar ei ganfed, yn enwedig wrth feithrin tîm. Gall hefyd helpu i leihau’r gamddealltwriaeth allai godi ac arwain at gwynion neu gamau disgyblu.

I gael rhagor o gyngor ac arweiniad, ewch i wefan: 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.