BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwyliau Nadolig 2024, sut fyddan nhw’n effeithio ar eich busnes chi?

One person wearing a jumper with a Reindeer, another person wearing jumper with a Christmas tree

Mae tymor y Nadolig yn cael effaith fawr ar fwyafrif busnesau a gweithwyr y Deyrnas Unedig. Dyma amser pan fydd mwy o alw am gynnyrch a gwasanaethau a nwyddau i’w gwerthu mewn rhai busnesau. Mae eraill yn wynebu cyfnod tawel neu’n cau efallai dros y gwyliau.

Eleni, mae Dydd Nadolig, 25 Rhagfyr, ar ddydd Mercher a Gŵyl San Steffan, 26 Rhagfyr, ar dydd Iau. 

Bydd llawer o weithwyr yn gofyn am amser i ffwrdd o'r gwaith i dreulio amser gyda'r teulu, mynd am wyliau neu fynychu gwasanaethau crefyddol. Mae’n bosib y bydd gweithwyr sy’n gweithio dros y Nadolig yn wynebu patrymau gweithio gwahanol, newid yn natur eu baich gwaith neu’n cael trafferth mynd a dod i'r gwaith.

Dylai polisi gwyliau blynyddol sefydliad roi arweiniad ar sut i fynd ati i drefnu amser i ffwrdd. Ond, efallai y gallai cyflogwyr ystyried bod ychydig yn fwy hyblyg wrth ganiatáu i weithwyr gael gwyliau yn ystod y cyfnod hwn. Dylai gweithwyr gofio nad yw hyn yn bosib bob tro gan y gallai fod yn un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn i'r sefydliad. Y peth pwysig ydy i bawb geisio dod i gytundeb a chynllunio mor gynnar â phosib ond gan fod yn deg a chyson â phawb ar y staff.

I gael rhagor o wybodaeth am Wyliau Banc a gwyliau blynyddol, ewch i:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.