BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwyliwch Weminarau wedi’u Recordio CThEF ar gyfer Diweddariadau Treth

Mae gweminarau wedi’u recordio a fideos YouTube CThEF yn darparu gwybodaeth, arweiniad ac awgrymiadau i'ch helpu i ddeall materion treth. 

Mae'r gweminarau wedi'u rhestru isod.

Porthladdoedd Rhydd y DU – enghreifftiau o fuddion treth a thollau

Mae’r gweminar hwn wedi’i recordio yn rhoi:

  • trosolwg o borthladdoedd rhydd y DU
  • esboniad o'r buddion treth a thollau posibl ar gyfer dau fusnes gwahanol

Trosolwg o gosbau talu’n hwyr a newidiadau llog newydd am gyflwyno TAW yn hwyr 

Bydd y gweminar hwn wedi’i recordio yn esbonio cosbau TAW newydd CThEF a newidiadau i log TAW. Bydd y rhain yn disodli'r gordal diofyn TAW am gyfnodau cyfrifyddu TAW sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023.

Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaeth ac adrodd am anghysondebau

Bydd y gweminar hwn wedi’i recordio yn cynnwys: 

  • beth yw’r Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaeth 
  • beth yw ymddiriedolaeth, ymddiriedolwr ac unigolyn perthnasol 
  • y ddogfen prawf o gofrestru 
  • sut i wneud adroddiad a chosbau am beidio â chydymffurfio 

Lwfans cyfalaf uwch-ddidyniad blwyddyn gyntaf

Mae’r gweminar hwn wedi’i recordio yn drosolwg o'r lwfans cyfalaf uwch-ddidyniad ac yn cynnwys:

  • pa wariant sy'n gymwys 
  • pa eithriadau a allai fod yn berthnasol 
  • sut i ddefnyddio offeryn ar-lein newydd CThEF i wirio cymhwysedd 
  • sut i hawlio'r rhyddhad uwch-ddidyniad

Datgan eich grantiau ar eich ffurflen dreth cwmni (CT600)

Gwyliwch y fideo YouTube video  i gael trosolwg o sut i roi gwybod am daliadau cymorth a grantiau coronafeirws ar eich Ffurflen Dreth Cwmni, beth sy'n digwydd os ydych wedi hawlio gormod a chofnodion y mae angen i chi eu cadw.

Pecyn cymorth asiant incwm tramor

Darllenwch becyn newydd CThEF, 'Foreign income toolkit', i gael y wybodaeth ddiweddaraf ar sut i'ch helpu i gwblhau ffurflenni Hunanasesiad i ddatgelu incwm eiddo tramor, buddsoddiad a phensiynau, a mwy. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.