Mae ymgyngoriadau cyhoeddus ar ddau Gynllun Rheoli Pysgodfeydd ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr wedi'u cyhoeddi heddiw (17 Gorffennaf 2023).
Mae'r ddau gynllun yn canolbwyntio ar gregyn y brenin a draenogiaid môr ac maen nhw wedi’u cynnwys yn y grŵp cyntaf o Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn y DU i fod yn destun ymgynghoriad.
Bydd y Cynlluniau yn nodi'r polisïau a'r cyfeiriad strategol ar gyfer rheoli pysgodfeydd er mwyn sicrhau bod stociau pysgod yn cael eu hadfer a'u cynnal ar lefelau cynaliadwy.
Bydd pob Cynllun yn nodi'r stoc bysgod, y math o bysgota, yr ardal dan sylw, yr awdurdod sy'n gyfrifol a'r dangosyddion sydd i'w defnyddio ar gyfer monitro effeithiolrwydd y cynllun.
Gyda'i gilydd, bydd creu'r Ddeddf Bysgodfeydd, y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd a'r Cynlluniau hyn yn newid y ffordd y mae pysgodfeydd yn cael eu rheoli'n sylweddol yn y DU.
Bydd yr ymgynghoriad, a gynhelir rhwng 17 Gorffennaf ac 1 Hydref 2023, yn croesawu barn pawb sydd â diddordeb a’r bobl hynny y bydd y polisïau arfaethedig yn effeithio arnynt.
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Ymgynghoriad ar Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd cyntaf Cymru | LLYW.CYMRU