BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hac Iechyd Cymru 2022

Mae Hac Iechyd Cymru yn dychwelyd ar gyfer ei 9fed digwyddiad, i greu arloesedd newydd i ddatrys heriau sy'n wynebu cydweithwyr ar draws gofal iechyd, y byd academaidd a diwydiant.

Mae Hac Iechyd Cymru yn ysgogi ac yn cefnogi arloesedd i greu systemau, proses, arferion, dulliau a thechnolegau gofal iechyd sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Mae'n cynnig cyfle gwych i staff GIG Cymru, prifysgolion a diwydiant gydweithredu a rhwydweithio i ddatblygu syniadau cam cynnar a allai ddatrys heriau iechyd gweithredol a gynigir gan glinigwyr go iawn a gweithwyr iechyd yng Nghymru.

Mae Hac Iechyd Cymru yn digwydd ar-lein, gyda gosod heriau ar yr 16 Chwefror 2022 a pitsio atebion ar y 1 Mawrth 2022.

Bydd cyfranogwyr yn cael mynediad at arbenigwyr arloesi a fydd yn cynnig cyngor ar sut i symud atebion arfaethedig ymlaen, ynghyd â chael cyfle i sicrhau hyd at £20,000 fesul prosiect arloesi, o bot Llywodraeth Cymru o hyd at £250,000.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r her yw dydd Gwener 11 Chwefror 2022.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Ymunwch â Hac Iechyd Cymru 2022 a sicrhau hyd at £25,000 o gyllid prosiect arloesi - Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.