Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynnal hapwiriadau ac archwiliadau ar bob math o fusnesau ym mhob maes i sicrhau eu bod yn COVID-ddiogel.
Trwy ffonio ac ymweld â safleoedd a siarad gyda chyflogwyr, gall yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wirio bod y mesurau sydd wedi’u rhoi ar waith yn cydymffurfio â chanllawiau’r llywodraeth.
Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am ragor o wybodaeth am:
- sut mae hapwiriadau ac archwiliadau’n gweithio
- beth sydd angen i’n harolygwyr ei archwilio
- sut gallant eich helpu i gadw’ch gweithlu yn COVID-ddiogel
- camau y bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn eu cymryd os nad yw cyflogwyr yn rheoli’r risg o ledaeniad COVID